|
||||||
|
|
MA Astudiaethau Celtaidd Disgrifiad o'r Modiwl - Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o'r Rhanbarthau Celtaidd Adran: Adran y Gymraeg Maes Llafur: Bydd y modiwl hwn yn ystyried bywydau a rolau merched yn yr Oesoedd Canol yn y rhanbarthau Celtaidd. Dechreuir trwy rhoi sylw i rôl merched mewn barddoniaeth arwrol Geltaidd, gan roi sylw arbennig i'r Gododdin , barddoniaeth chwedlonol Gymraeg gynnar a thema sofraniaeth mewn llenyddiaeth Wyddeleg gynnar. Dilynir hyn gan astudiaeth o farddoniaeth llys Celtaidd i ferched yn y Canol Oesoedd, gan ystyried hefyd y cyd-destun Ewropeaidd. Bydd y modiwl wedyn yn craffu ar gyfraniad diwylliannol merched (megis Gwerful Mechain), yn noddwyr ac yn feirdd, i fywyd canoloesol, cyn trafod statws merched yng nghyfraith Hywel Dda a chyfraith gynnar Iwerddon. Rhoddir ystyriaeth hefyd i rôl merched mewn bywyd crefyddol wrth astudio'r ffynonellau hanesyddol sydd ar gael sy'n sôn am leiandai yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban. Deilliannau Dysgu Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn gyfarwydd â ffynonellau hanesyddol, llenyddol a chyfreithiol am ferched yn y rhanbarthau Celtaidd. Byddant yn gallu cyrchu ac asesu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol, a'u gwerthuso'n feirniadol. Bydd y myfyrwyr hefyd wedi datblygu dealltwriaeth o gyd-destun cymdeithasol, crefyddol ac economaidd merched Celtaidd yn yr Oesoedd Canol. Sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau perthnasol eraill Fel yn achos pob modiwl ôl-radd, bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau beirniadu ar lefel ôl-raddedig: mae'r rhain yn cynnwys, yn bennaf dim, y gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i lunio a chyflwyno dadleuon beirniadol. Er na fydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar sgiliau rhyngrwyd, mae'n cynnig y cyfle i ddefnyddio ac i bwyso ffynonellau rhyngrwyd wrth ymgymryd ag ymchwil ac ysgrifennu o safon uchel. Llyfryddiaeth ddethol
Gwerthuso: Dosberthir holiaduron gwerthuso modiwlau i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau pob modiwl. Trafodir y cwricwlwm hefyd mewn cyfarfodydd tymhorol y Pwyllgor Ymgynghorol Staff – Myfyrwyr, a gwahoddir myfyrwyr e-addysg i gyflwyno sylwadau ar e-bost i'r Cyfarwyddwr e-addysg cyn y cyfarfodydd. Gwneir adroddiadau blynyddol ar y cwricwlwm gan yr Arholwr Allanol. Adolygir cynlluniau gradd y Brifysgol o bryd i'w gilydd gan yr Asiantaeth er Gwarantu Ansawdd Addysg Uwch. |
|
|||||
| Diweddarwyd: Mai 14 2007 | |||||