Prifysgol Cymru Llanbder Pont Steffan Hafan - Adran y Gymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Gweld y dudalen hon yn Saesneg - View this page in English

 

e-addysg.com

MA Astudiaethau Celtaidd

Disgrifiad o'r Modiwl - Isdeitlo: Theori ac Ymarfer

Adran: Adran y Gymraeg
Cod Modiwl: MAEB0540W
Lefel: MA
Tymor y dysgu: i'w drefnu
Nifer y credydau: 40
Dulliau Asesu: gweler isod
Dull(iau) Dysgu: darlithoedd, tiwtorialau a seminarau yn y stiwdio isdeitlo
Rhaganghenraid / Rhagangenrheidiau: dim
Cydanghenraid / Cydangenrheidiau: dim
Elfennau Anghymarus: dim
Cyfrwng Dysgu: y Gymraeg
Darlithydd / Cydlynydd: Mrs Gwen Davies a'r Dr Elisa Moras
Oriau Cyswllt: 40

Is-deitlo

Maes Llafur:

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno i'r myfyrwyr hyfforddiant o safon uchel yn yr egwyddorion a'r sgiliau ieithyddol a thechnegol angenrheidiol ar gyfer isdeitlo i safon darlledu ac i osod amsernodau perthnasol. Bydd yn cynnwys cwrs dwys 15-20 awr o ran hyd ar ddechrau'r cwrs, sesiynau wythnosol o greu ac amseru isdeitlau, yn ogystal â seminarau dan arweiniad gan ymarferwyr profiadol yn y maes. Bydd y cwrs yn cynnwys (i) arolwg a dadansoddiad o lenyddiaeth berthnasol ym maes cyfieithu ar sgrin; (ii) prif nodweddion cyfieithu ar gyfer y teledu – y nodweddion sy'n debyg ac yn wahanol i weithgareddau cyfieithu eraill; (iii) yr anawsterau ieithyddol a diwylliannol y mae'n rhaid i isdeitlwyr eu datrys; (iv) astudiaeth o sgiliau technolegol ac ieithyddol mewn cyd-destun dwyieithog (yn cynnwys dehongli sgript, paratoi'r sgript, defnyddio testunau isdeitlo, amseru a sgiliau trosglwyddo).

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr:

  • bod yn hollol gyfarwydd â'r canllawiau isdeitlo a gymeradwyir gan yr awdurdodau darlledu a'r cwmnïau isdeitlo:
  • gallu cymhwyso'r canllawiau hyn;
  • gallu creu ac amsernodi isdeitlau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer gwahanol fathau o raglenni teledu;
  • gweithio'n annibynnol dan amodau ôl-gynhyrchu.

Dull Asesu:

Defnyddir yr egwyddorion a ddysgwyd mewn cyfres o aseiniadau ymarferol a chyflwynir portffolio o waith i'w asesu a fydd yn cynnwys o ryw 60 munud o isdeitlau, a fydd yn adlewyrchu'r Deilliannau Dysgu. Rhaid i fyfyrwyr hefyd ddethol o leiaf chwech ond dim mwy na deuddeg her berthnasol, a chynnig sylwadau ar yr anawsterau cyfieithu er mwyn amlygu'r dewisiadau posibl sydd ar gael i'r cyfieithydd wrth iddo/iddi geisio datrys pob problem a chyfiawnhau'r dewis terfynol.

Sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau perthnasol eraill:

Dylai'r modiwl hwn alluogi myfyrwyr:

  • i gaffael sgiliau cyfathrebu uwch;
  • i wella sgiliau ysgrifennu a chyfieithu defnyddiol mewn amgylchedd gwaith ddwyieithog;
  • i wella'u sgiliau TG;
  • i drafod ystod eang o faterion damcaniaethol sy'n ymwneud â strategaethau dysgu a chyfathrebu dwyieithog effeithiol;
  • i ddangos gwelliant yn eu sgiliau galwedigaethol.

Llyfryddiaeth ddethol:

  • Baker, R. G., Handbook for Television Subtitlers.
  • Delabasstita, D., ‘Translation and mass communication: film and TV translation as evidence of cultural dynamics', Babel 35:4 (1989), 193-218.
  • Dirven, Rene a Martin Putz, ‘Intercultural communication', Language Teaching , Gorffennaf 1993.
  • Ivarsson, Ian a Mary Carroll, Subtitling , TransEdit HB, Simrishamn, Sweden
  • Kyle, J. G., Switched On: deaf people's views on television subtitling . A report for the ITC and BBC by the Centre for Deaf Studies, Prifysgol Bryste, 1992.
  • James, Heulwen L., Canllawiau Arferion Da ar gyfer Is-deitlwyr yng Nghymru – Y Camau Cyntaf.
  • Lambourne, A. D. a G. Rowston IBA/Oracle Teletext Cyf., Prifysgol Southampton, 1982.
  • Luyken, G. M., Herbst, T., Langham-Brown, J., Reid, H. a Spinhof, H. Overcoming language barriers in television dubbing and subtitling for the European audience , Media monograph 13. European Institute for the Media, Manceinion, 1991.
  • Nedergaard-Larsen, B., ‘Culture-Bound factors in subtitling', yn Perspectives: Studies in Translatology, 2 (1993), 206-41.
  • Newmark, Peter, About Translation , Multilingual Matters (Clevedon, 1991).
  • Reid, Helen, ‘The semantics of subtitling or: Why don't you translate what I say? ' EBU Review 38.(1987), 67-77.
  • Rubin, A., ‘Ritualised and instrumental television viewing', Journal of Communication , 34 (1984), 67-77.
  • Sperber, D. a D. Wilson, Relevance Communication and Cognition , (Rhydychen, 1986).
  • Vöge, H., ‘The translation of films: subtitles versus dubbing', Babel 23 (1977), 120-125.
  • Yvanne, J., ‘Subtitling: dubbing and targets', Media 8 (1991), 6-8.

Gwerthuso

Dosberthir holiaduron gwerthuso modiwlau i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau pob modiwl. Trafodir y cwricwlwm hefyd mewn cyfarfodydd tymhorol y Pwyllgor Ymgynghorol Staff – Myfyrwyr, a gwahoddir myfyrwyr e-addysg i gyflwyno sylwadau ar e-bost i'r Cyfarwyddwr e-addysg cyn y cyfarfodydd. Gwneir adroddiadau blynyddol ar y cwricwlwm gan yr Arholwr Allanol. Adolygir cynlluniau gradd y Brifysgol o bryd i'w gilydd gan yr Asiantaeth er Gwarantu Ansawdd Addysg Uwch.

 

 

 

Diweddarwyd: Mai 14 2007