Prifysgol Cymru Llanbder Pont Steffan Hafan - Adran y Gymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Gweld y dudalen hon yn Saesneg - View this page in English

 

e-addysg.com

MA Astudiaethau Celtaidd

Disgrifiad o'r Modiwl - Hanes Sosioieithyddol yr Ieithoedd Celtaidd

Adran: Adran y Gymraeg
Cod Modiwl: MAAC0720
Lefel: MA
Tymor y dysgu: amherth.
Nifer y credydau: 20
Dulliau Asesu: un traethawd (oddeutu 5,000 o eiriau)
Dull(iau) Dysgu: dysgu o bell gyda deunyddiau dysgu ysgrifenedig: tiwtora unigol trwy'r post, ffôn neu e-bost
Rhaganghenraid / Rhagangenrheidiau: dim
Cydanghenraid / Cydangenrheidiau: dim
Elfennau Anghymarus: dim
Cyfrwng Dysgu: yn Gymraeg neu'n Saesneg
Darlithydd / Cydlynydd: Dr Christine Jones
Oriau Cyswllt: amherth.
Darlithiau wythnosol: amherth.
Tymor y dysgu: Cofrestru hyblyg

Maes Llafur:

Bydd y modiwl hwn yn trafod hanes sosioiethyddol ieithyddiaeth yr ieithoedd Celtaidd, gan fanylu ar agweddau cymdeithasol ar ddefnydd iaith yn y gwahanol wledydd Celtaidd. Dechreuir trwy fwrw golwg ar gyflwr presennol y Gymraeg, y Llydaweg, y Wyddeleg, a Gaeleg yr Alban o safbwynt hanesyddol: er enghraifft, yn achos y Gymraeg, bydd y drafodaeth yn dechrau gyda geni'r iaith yn y chweched ganrif, a'r edwino a ddilynodd, cyn trafod effaith negyddol diwydiannaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a statws isel yr iaith yng nghyfundrefn addysg y cyfnod hwnnw. Bydd y dadansoddi'n dangos bod cynnwrf economaidd gymdeithasol wedi achosi yr un fath o shifft sylweddol i gyfeiriad y Saesneg yn Iwerddon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bod esgeuluso Gaeleg yr Alban gan y gyfundrefn addysg yr un cyfnod wedi cyfrannu'n sylweddol at ei dirywiad fel cyfrwng llenyddol.

Wedi archwilio'r cefndir hanesyddol, bydd y modiwl yn astudio dosbarthiad daearyddol siaradwyr yr ieithoedd Celtaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Yn ogystal ag edrych ar niferoedd siaradwyr y pedair iaith Geltaidd sydd wedi goroesi, bydd y modiwl yn olrhain adfywiad y ddwy iaith Geltaidd arall, sef Manaweg a Chernyweg, yn ystod y cyfnod hwn, ac yn cyfeirio at gymunedau Celtaidd y tu allan i'r gwledydd Celtaidd, mewn mannau megis Patagonia ac Unol Daleithiau'r America

Wedi craffu ar yr ieithoedd Celtaidd o safbwynt hanesyddol a demograffig, rhoir sylw i'r gefnogaeth sefydliadol bresennol i'r ieithoedd hyn mewn meysydd megis addysg, llywodraeth a'r cyfryngau. O safbwynt y Gymraeg, bydd hyn yn cynnwys trafod pynciau megis addysg ddwyieithog, mudiad dysgu Cy,reag i oedolion, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Radio Cymru ac S4C . Rhoddir sylw i destunau tebyg yn y gwledydd Celtaidd eraill, a gwneir cymariaethau lle y bo hynny'n briodol, e.e. yn achos mudiad ysgolion Diwan yn Llydaw a Mudiad Ysgolion Meithrin yng Nghymru. Bydd y modiwl yn gorffen trwy gynnig dadansoddiad cryno o'r rhagolygon ar gyfer pob un o'r chwe iaith Geltaidd. 

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr allu:

  • dangos eu bod yn gyfarwydd â hanes ieithyddol pob un o'r pedair iaith Geltaidd sydd wedi goroesi;
  • trafod y rhesymau dros edwino'r ieithoedd hyn dros y canrifoedd;
  • amlinellu tueddiadau demograffig mewn perthynas â'r chwe iaith Geltaidd dros y can mlynedd diwethaf;
  • trafod adfywiad y Fanaweg a'r Gernyweg yn ystod yr ugeinfed ganrif, a gwybod am gymunedau Celtaidd eraill ledled y byd;
  • dangos eu bod yn ymwybodol o gefnogaeth sefydliadol gyfoes i'r ieithoedd Celtaidd mewn meysydd megis addysg, llywodraeth a'r yfryngau;
  • trafod y rhagolygon ar gyfer pob un o'r chwe iaith Geltaidd.

Sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau perthnasol eraill:

Dylai'r modiwl hwn alluogi myfyrwyr:

  • i ddefnyddio'r we fyd-eang fel erfyn addysgol;
  • i gyfleu a thrafod ystod eang o faterion ar e-bost;
  • i ddysgu a dadansoddi'n feirniadol gwybodaeth o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
  • i ddangos lefel uwch o wybodaeth hanesyddol a dealltwriaeth o ieithyddiaeth gymdeithasegol;
  • i gaffael sgiliau cymryd nodiadau effeithiol;
  • i gynnig ymatebion strwythuredig a rhesymegol i'r pynciau a fydd yn eu hwynebu.  

Llyfryddiaeth ddethol:

  • John Aitchison a Harold Carter, Language, Economy and Society (Caerdydd, 2000)
  • Martin Ball a James Fife (golygyddion) The Celtic Languages (Llundain, 1993).
  • Helen Kelly-Holmes, Minority Language Broadcasting: Breton and Irish (Clevedon, 2001)
  • Glanville Price (gol.), The Celtic Connection (Gerrards Cross, 1992).
  • Maria Tymoczko & Colin Ireland (golygyddion), Language and Tradition in Ireland : Continuities and Displacements (Amherst, 2003)

(Dosberthir llyfryddiaethau manwl yn ystod y modiwl.)  

Gwerthuso

Dosberthir holiaduron gwerthuso modiwlau i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau pob modiwl. Trafodir y cwrs hefyd mewn cyfarfodydd tymhorol y Pwyllgor Ymgynghorol Staff – Myfyrwyr, a gwahoddir myfyrwyr e-addysg i gyflwyno sylwadau ar e-bost i'r Cyfarwyddwr e-addysg cyn y cyfarfodydd. Gwneir adroddiadau blynyddol ar y cwrs gan yr Arholwr Allanol. Adolygir cynlluniau gradd y Brifysgol o bryd i'w gilydd gan yr Asiantaeth er Gwarantu Ansawdd Addysg Uwch.

 

 

 

Diweddarwyd: Mai 14 2007