Prifysgol Cymru Llanbder Pont Steffan Hafan - Adran y Gymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Gweld y dudalen hon yn Saesneg - View this page in English

 

e-addysg.com

CYFLWYNO'R GYMRAEG I OEDOLION

Dau fodiwl ôl-raddedig sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o'r datblygiadau diweddaraf ym maes Dysgu Cymraeg i Oedolion o safbwynt hanesyddol, damcaniaethol ac ymarferol. Dyfernir tystysgrifau i fyfyrwyr llwyddiannus. Gellir dewis dilyn naill ai un modiwl yn unig neu'r ddau ohonynt.

Modiwl Un: Hanes a Datblygiad Dysgu Cymraeg i Oedolion (20 credyd)

Olrheinir twf a datblygiad dysgu Cymraeg fel ail iaith, yn enwedig ymhlith oedolion, o ganol yr ugeinfed ganrif hyd heddiw, gan drafod yr athroniaethau sydd y tu cefn i'r dulliau gwahanol megis y dull dwyieithog a'r dull cyfathrebol. Trafodir a dadansoddir nifer fawr o ddeunyddiau dysgu yn cynnwys gwerslyfrau megis Yr Wlpan a Dosbarth Nos, rhaglenni radio a theledu, nofelau, gwefannau, ayb

Asesu: Traethawd beirniadol ar ddulliau dysgu a'r dosbarth iaith - 3,000 o eiriau

Adolygiad cymharol o ddau adnodd i ddysgwyr - 6,000 o eiriau

Modiwl Dau: Agweddau Ymarferol ar Ddysgu Iaith (20 credyd)

Yn y modiwl hwn, trafodir methodoleg dysgu ail iaith heddiw. Rhoddir sylw i amrywiaeth o bynciau megis trefniadaeth ac awyrgylch y dosbarth, rôl yr athro a'r dysgwr, y sgiliau cyfathrebol a ffyrdd o'u cyflwyno, gwaith pâr, drilio, asesu a gwerthuso ayb. Ymestynnir dealltwriaeth a phrofiad y myfyrwyr trwy ymweliadau â dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Disgwylir iddynt hefyd gyflwyno gwers awr a hanner neu ddwy awr ym mhresonoldeb trefnydd y modiwl.

Asesu: Traethawd disgrifiadol yn seiliedig ar ddau sesiwn yn arsyllu dau diwtor gwahanol - 4,000 o eiriau

Cynllun gwers - 2,000 o eiriau

Adroddiad dadansoddol yn seiliedig ar wers a gyflwynwyd ym mhresenoldeb tiwtor y modiwl - 3,000 o eiriau

Am fanylion pellach am y ddau fodiwl uchod, cysylltwch â'r Dr Christine Jones (01570-424931) c.m.jones@lamp.ac.uk

 

Gellir hefyd ychwanegu at y credydau uchod trwy wneud cyrsiau neu lwybrau eraill ar lefel ôl-radd a all arwain at MA mewn Dwyieithrwydd Ewropeaidd.
Am fanylion pellach cysylltwch â'r Athro David Thorne (01570 - 424860) thorne@lamp.ac.uk

 

 

 

Diweddarwyd: Mai 14 2007