Prifysgol Cymru Llanbder Pont Steffan Hafan - Adran y Gymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Gweld y dudalen hon yn Saesneg - View this page in English

 

e-addysg.com

MA Astudiaethau Celtaidd

Disgrifiad o'r Modiwl - Dafydd ap Gwilym

Adran: Adran y Gymraeg
Cod Modiwl: MAAC0120
Lefel: MA
Tymor y dysgu: amherth.
Nifer y credydau: 20
Dulliau Asesu: un traethawd (oddeutu 5,000 o eiriau)
Dull(iau) Dysgu: dysgir o hirbell â deunyddiau dysgu / e-ddysgu ysgrifenedig; tiwtora unigol trwy'r post
Rhaganghenraid / Rhagangenrheidiau: dim
Cydanghenraid / Cydangenrheidiau: dim
Elfennau Anghymarus: dim
Cyfrwng Dysgu: Yn Gymraeg neu'n Saesneg
Darlithydd / Cydlynydd: Owen Thomas
Oriau Cyswllt: amherth.
Darlithiau wythnosol: amherth.
Tymor y dysgu: Cofrestru hyblyg

Maes Llafur:

Bydd y modiwl hwn yn ystyried cyd-destun hanesyddol a diwylliannol cerddi Dafydd ap Gwilym. Fodd bynnag, nid cwrs hanes fydd y modiwl hwn a thynnir sylw myfyrwyr at y problemau testunol a beirniadol sydd yn codi yn ei waith. Rhoddir pwyslais hefyd ar ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i werthfawrogi eos Dyfed, un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru'r Oesoedd Canol.

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd disgwyl i'r myfyriwr fod yn gyfarwydd â llawer o gerddi Dafydd ap Gwilym, a meddu ar ddealltwriaeth o natur a phroblemau llenyddiaeth ganoloesol.

Bydd disgwyl i'r myfyriwr hefyd fod yn gyfarwydd â phroblemau dadansoddi testun a throsglwyddo llawysgrifau yn yr Oesoedd Canol, a bydd y modiwl yn feithrinfa ar gyfer ymchwil bellach.

Sgiliau Trosglwyddadwy a Sgiliau Perthnasol Eraill:

Fel yn achos pob modiwl ôl-radd, bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau beirniadu ar lefel ôl-raddedig: mae'r rhain yn cynnwys, yn bennaf oll, y gallu i fynd ati i ymchwilio'n annibynnol, ac i lunio a chyflwyno dadleuon beirniadol.

Caiff myfyrwyr gyfle yn ogystal i bori ym maes beirniadaeth lenyddol wrth ddilyn y modiwl hwn.

Er na fydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar sgiliau'r we, mae'n ofynnol i'r myfyriwr ddefnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd mewn amrywiol gyfryngau, gan gynnwys y we.

Llyfryddiaeth Ddethol:

  • Parry, Thomas, Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1952 a 1979)
  • Thomas, Gwyn, Dafydd ap Gwilym: His Poems (Caerdydd, 2001)
  • Bromwich, Rachel, Dafydd ap Gwilym: A Selection of Poems (Llandysul, 1982; argraffiad diwygiedig 1993)
  • Johnston, Dafydd, Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1998)
  • Bromwich, Rachel, Tradition and Innovation in the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1967)
  • Bromwich, Rachel, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1986)
  • Fulton, Helen, Dafydd ap Gwilym and the European Context (Caerdydd, 1989)
  • Edwards, Huw Meirion, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Rhydychen, 1996)
  • Huws, Daniel, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd, 2000)
  • Fulton, Helen, Dafydd ap Gwilym: Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • Daniel, I., Haycock, M., Johnston D. (goln), Cyfoeth y Testun (Caerdydd, 2003)
  • http://digidol.llgc.org.uk/METS/DAF00012/frames?div=0&subdiv=0&locale=cy&mode=reference

Gwerthuso:

Dosberthir holiaduron gwerthuso modiwlau i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau pob modiwl. Trafodir y cwricwlwm hefyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol Staff – Myfyrwyr bob tymor, a gwahoddir myfyrwyr e-ddysgu i gyflwyno sylwadau drwy e-bost i'r Cyfarwyddwr e-addysg ymlaen llaw. Gwneir adroddiadau blynyddol ar y cwricwlwm gan yr Arholwr Allanol. Adolygir cynlluniau gradd y Brifysgol o bryd i'w gilydd gan yr Asiantaeth er Gwarantu Ansawdd Addysg Uwch.

 

 

 

Diweddarwyd: Mai 14 2007