|
||||||
|
|
Cyfieithu ar Lefel M Diben y cwrs yw asesu a gwobrwyo cymhwysedd proffesiynol wrth gyfieithu. Felly mae'r arholwyr yn chwilio am waith sy'n broffesiynol dderbyniol ac a fyddai'n addas i'w gyflwyno i gleient. Caiff eich perfformiad ei asesu gan ddefnyddio'r Agweddau ar Berfformiad canlynol:
Nod Arfogi'r myfyrwyr ag egwyddorion a methodoleg cyfieithu a fydd yn ei g/alluogi u fynegi'n gywir ac eglur yr ystyr a fynegir yn yr iaith wreiddiol, gan ddefnyddio ffurffiau naturiol yr iaith darged. Erbyn diwedd y cwrs dylai'r myfyriwr allu:
Cyflwynir myfyrwyr i'r offer sylfaenol sydd ei angen i gyfieithu'n llwyddiannus
- geiriaduron, geirfaoedd arbenigol, gramadegau. Dull asesu Defnyddir yr egwyddorion a ddysgwyd mewn cyfres o aseiniadau ymarferol a chyflwynir portffolio o waith o oddeutu 2,500 gair i'w asesu a fydd yn dangos y deilliannau dysgu. Mae angen i fyfyrwyr hefyd ddethol lleiafswm o chwech ond dim mwy na deuddeg her berthnasol, gan wneud sylwadau ar bob her wrth gyfieithu er mwyd dangos pob dewis sydd ar gael i'r cyfieithydd wrth iddo/iddi ddatrys pob anhawster a chyfiawnhau'r dewis terfynol.
Cynnwys - yr hyn y dylech geisio ei gyflawni wrth anodi Diben yr adran anodiadau yw rhoi cyfle i ymgeiswyr gyfleu i'r arholwyr rhai o'r prosesau meddwl sydd ynghlwm wrth gynhyrchu'r cyfieithiad. Yn yr anodiadau, bydd angen i chi drafod problemau cyfieithu o safbwynt y cyfieithydd; dylech ddyfynnu darnau o'r testun gwreiddiol sy'n peri problemau gwirioneddol y teimlwch y byddent yn cynnig her i bawb sy'n cyfieithu'r darn hwnnw o ran y penderfyniadau sydd angen eu gwneud. Er na ddylai eich anodiadau fod yn hirfaith (a gellir, mewn gwirionedd, eu hysgrifennu ar ffurf nodiadau), nid ystyrir bob geiriau unigol fel 'trosiad' neu 'priod-ddull' yn ddigonol. Er eu bod o bosib yn disgrifio'r ffenomen ieithyddol yn gywir, byddai'r arholwyr yn hoffi gwybod pam aethoch i'r afael â nhw yn y dull a ddangoswyd gennych yn eich cyfieithiad, pa ddewis arall a oedd ar gael i chi wrth i chi ddod at yr ateb a sut gwnaethoch eich penderfyniad terfynol o'r dewisiadau hyn. Felly, mae angen i chi drafod y broses o greu strategaethau a rhesymwaith wrth wneud eich dewis terfynol, gan ddangos wrth wneud hynny ddealltwriaeth wybodus o'r broblem benodol honno. Noder: Dylech ddethol lleiafswm o chwech, ond dim mwy na ddeuddeg her berthnasol i roi sylwadau arnynt.
|
|
|||||
| Diweddarwyd: Mai 14 2007 | |||||