Prifysgol Cymru Llanbder Pont Steffan Hafan - Adran y Gymraeg, Llanbedr Pont Steffan

Gweld y dudalen hon yn Saesneg - View this page in English

 

e-addysg.com

Cyfieithu

Modiwl : Cyfieithu
Cyfeirnod: 2ECym1020w
Credyd : 20
Darlithydd : Yr Athro D A Thorne
Tymor: 1 a 2

Amcanion

  • galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o grefft cyfieithu drwy eu gorfodi i ymchwilio'n drylwyr i gefndir i darnau gosod ac i archwilio meysydd megis cywair ac arddull.

Deilliannau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr allu

  • eu mynegi eu hunain yn gryno mewn ieithwedd sy'n briodol i'r darnau a gyfieithwyd
  • ymchwilio'n effeithiol a chyfiawnhau'r dewisiadau a wneir ganddynt o ran geireg a chystrawen

I gychwyn cyflwynir myfyrwyr i ddefnyddiau llyfryddol sylfaenol sy'n rhaid wrthynt er mwyn cyfieithu'n llwyddiannus - geiriaduron, geirfâu, gramadegau. Dewisir cyfres o ddarnau i'w paratoi, a thrafodir yr anawsterau geirfaol, cyweiriol, diwylliannol, semantegol ayb sydd ynghlwm wrth y darnau gosod cyn mentro ar ddrafft pellach. Trefnir cyfle i adolygu, golygu ac ymgynghori cyn cyflwyno fersiwn terfynol i'w arholi.

Dull asesu

Cyflwynir cyfres o ddarnau o amrywiol gyweiriau i'w arholi ynghyd â thrafodaeth ar chwech o ffurfiau/anhawsterau sy'n digwydd yn y darnau dan sylw.

Llyfryddiaeth

Rhennir llyfryddiaeth ar ddechrau'r cwrs.


 

 

Diweddarwyd: Mai 14 2007