|
||||||
|
|
MA Astudiaethau Celtaidd Nodau Cyffredinol y Cynllun, Cynnwys a Strwythur y Cwrs Prif nod yr MA mewn Astudiaethau Celtaidd yw cynnig i fyfyrwyr â chanddynt ddiddordeb yn y Gymraeg ac mewn Astudiaethau Celtaidd gyfle i astudio gwahanol agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd wrth eu pwysau eu hunain yn rhan o gynllun dysgu o hirbell hyblyg a blaengar. Yn ogystal â gwella sgiliau astudio a methodoleg ymchwilio y myfyrwyr, bydd y cynllyn yn fodd i fyfyrwyr ddewis amrywiaeth o wahanol fodiwlau gan gynnwys Arthur y Celtiaid, Sieffre o Fynwy a'r Traddodiadau am Hanes Prydain, cerddi Dafydd ap Gwilym, Beirniadaeth Lenyddol, Y Ferch yn yr Oesoedd Canol, Cwlt y Forwyn Fair yn y Gwledydd Celtaidd a Hanes Sosioiethyddol yr Ieithoedd Celtaidd. Dylai myfyrwyr ddewis eu modiwlau mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y radd a fydd yn eu cynghori pa fodiwlau sydd ar gael y flwyddyn honno. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o'r ieithoedd Celtaidd (er bod hynny'n fantais), oherwydd gellir astudio'r testunau naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Lle bo'n briodol astudir testunau Cymraeg Canol a darperir naill ai cyfieithiadau neu ddiweddariadau o'r testunau hyn. Gall myfyrwyr ysgrifennu eu traethodau ar destunau hanesyddol a llenyddol yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Nod y cwrs yw cyflwyno'r gwahanol destunau a phynciau i'r myfyrwyr wrth roi iddynt y cefndir a'r cynnwys angenrheidiol ac yna gadael i fyfyrwyr astudio'r pynciau mewn rhagor o fanylder trwy ddarllen cyfeiriedig. Defnyddir e-bost i gyfathrebu â myfyrwyr a goruchwylio'u gwaith. Caiff myfyrwyr heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r ieithoedd Celtaidd eu hannog i ddechrau dysgu'r Gymraeg neu'r Wyddeleg, a bydd myfyrwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg yn gallu dilyn eu modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno gwaith i'w dafoli yn Gymraeg. Dim ond y rheini sy'n rhugl yn y Gymraeg, neu â chrap da ar y Gymraeg, a gaiff ddilyn y modiwlau cyfieithu ac isdeitlo. Mae'r Adran yn cynnig portffolio sylweddol o gyrsiau iaith (Cymraeg i Ddechreuwyr [Camu i Raddedigion] a Dysgwyr da [Camu Ysgrifenedig a Chamau Pellach], Mynegiant i Raddedigion, Cyfoethogi Iaith, Gloywi Iaith a Blas na Gaeilge) a gallai myfyrwyr ymgorffori gwerth 40 credyd o gyrsiau iaith yn eu cynllun MA (80 o gredydau cyrsiau iaith israddedig = 40 o gredydau lefel MA). Ond nid yw'r cyrsiau iaith yn elfennau gorfodol, a gallai myfyrwyr ddewis 120 credyd yn Rhan Un o blith modiwlau craidd yr MA (ym meysydd hanes, llenyddiaeth, ieithyddiaeth a sgiliau astudio), gan osgoi'r modiwlau iaith yn gyfangwbl pe baent yn dymuno gwenud hynny. Mae modd hefyd astudio 80 credyd o fodiwlau craidd (MA mewn Astudiaethau Celtaidd) a dewis 40 credyd o gyrsiau israddedig llenyddol a hanesyddol (e.e. Santesau Cymru, Gerallt Gymro, y Canu Cynnar, Benthyca Ieithyddol), neu 40 credyd o fodiwlau Meistr dysgu o hirbell a gynigir gan adrannau eraill (e.e. Hanes, Archaeoleg, Anthropoleg, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol). Rhoir manylion am y cyrsiau iaith sydd ar gael, yn ogystal â'r modiwlau israddedig a ddysgir o hirbell ac a gynigir gan Adran y Gymraeg ar ein gwefan http://cymraeg.lamp.ac.uk . Yn ogystal, ceir enghreifftiau o'r cyrsiau hyn yng nghefn y llawlyfr hwn. Mae'r Modiwl MAAS0620 Methodoleg Astudio ac Ymchwilio yn orfodol i bob myfyriwr, heblaw am ambell achos prin, (e.e. pan fo gan y myfyriwr radd ymchwil MA/PhD eisoes), ac mewn achos o'r fath bydd Cyfarwyddwr y radd yn gallu caniatáu hepgor yr elfen orfodol hon Mae Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn flaengar yn cynnig darpariaeth e-addysg yng Nghymru ers iddi gynnig modiwlau arloesol ar y we ym maes Astudiaethau Cymraeg yn 1998. Ers hynny, mae'r Adran wedi ennill llawer o arbenigedd o ran cynllunio, darparu ac asesu cynlluniau e-addysg ar lefel isradd ac ôl-radd. Gellir astudio'r cynllun yn llawn amser neu'n rhan amser ac mae cofrestru hyblyg yn rhoi rhyddid i fyfyrwyr ddewis pryd i ddechrau astudio yn hytrach na chyfyngu mynediad i ddechrau bob blwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr. Mae'r ffaith bod y deunyddiau dysgu o hirbell a'r cyrsiau wedi'u seilio ar y we neu becynnau dysgu ar gael 24 awr y dydd yn ehangu mynediad i addysg ac yn cynnig dull dysgwr-ganolog sy'n apelio at ystod eang o bobl gan gynnwys pobl mewn gwaith llawn amser, y rheini sy'n gofalu am blant yn ystod y dydd, a myfyrwyr sy'n anabl neu ag anghenion arbennig y byddai'n well ganddynt astudio o gartref, yn ogystal â myfyrwyr tramor. Rhan Un: Dyma'r rhan o'r cwrs a ddysgir ac mae'n werth 120 credyd. Mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn werth 20 credyd yr un ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr ysgrifennu un traethawd o 5,000 o eiriau. Bydd gan fyfyrwyr diwtor personol i bob modiwl a bydd hwnnw'n eu tywys trwy'r cwrs a'u helpu i gynllunio a pharatoi'r traethodau a gyflwynir i'w tafoli. Atebir ymholiadau trwy e-bost. Caiff traethodau a gwaith a gyflwynir i'w dafoli ei farcio gan ddarlithwyr unigol sy'n gyfrifol am y modiwl hwnnw, a chaiff sampl o'r holl aseiniadau eu marcio eilwaith o fewn yr Adran cyn eu hanfon at Arholwr Allanol yr Adran. Cynllun Marcio: 70% a throsodd: llwyddo gyda chlod uchel 40-69%: llwyddo - gall yr ymgeisydd fynd yn ei flaen i Ran Dau 0-39%: Methu Modiwlau Craidd Dewisol: Methodoleg Astudio ac Ymchwilio, Arthur y Celtiaid, Dafydd ap Gwilym, y Ferch yn yr Oesoedd Canol, Cwlt y Forwyn Fair yn y Gwledydd Celtaidd, Hanes Sosioieithyddol yr Ieithoedd Celtaidd, Sieffre o Fynwy a'r Traddodiadau am Hanes Prydain, Beirniadaeth Lenyddol, y Mabinogi, Cyfieithu, Isdeitlo. Rhan Dau: Wedi cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus gellir cyflwyno traethawd o 20,000 o eiriau (60 credyd) ar gyfer gradd MA. Bydd y traethawd yn ddarn o ymchwil, a baratowyd dan gyfarwyddyd darlithydd profiadol, ar destun sydd wedi apelio'n fawr at yr ymgeisydd. Cynllun Marcio: 70% a throsodd: Llwyddo gyda chlod uchel 40-69%: Llwyddo 39%: Methu Er mwyn llwyddo i ennill Radd Meistr gyda chlod uchel (distinction) rhaid i ymgeiswyr ennill marc cyffredinol o 70% fan lleiaf, wedi iddynt ennill o leiaf 65% yn Rhan Un ac o leiaf 70% yn Rhan Dau. Gallai ymgeiswyr a dderbynnir i'r cynllun gradd Meistr, ond sy'n methu â'i gwblhau, fod yn gymwys ar gyfer naill ai Tystysgrif Ôl-radd (wedi iddynt ennill o leiaf 60 credyd) neu Ddiploma Ôl-radd (wedi iddynt ennill o leiaf 120 credyd). Gofynion Mynediad Fel arfer, bydd gofyn bod ymgeiswyr am le ar y cynllun MA eisoes wedi ennill gradd BA dda yn y Dyniaethau neu mewn pwnc perthynol, er y bydd modd i'r Cyfarwyddwr dderbyn myfyrwyr aeddfed (25 oed +) ar sail cymwysterau eraill a phrofiad. Mae croeso i chi gysylltu â'r Dr Jane Cartwright i drafod eich sefyllfa arbennig chi ( j.cartwright@lamp.ac.uk Ffôn: 01570 424870). Llyfryddiaethau ac Adnoddau Llyfrgell Darperir llyfryddiaethau manwl wrth i'r cwrs fynd rhagddo, a bydd darlithwyr unigol yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynglŷn â'r testunau, y penodau a'r erthyglau y maent yn eu cymeradwyo'n arbennig ar gyfer paratoi'r gwaith asesu. Atgynhyrchir darnau o destunau a astudir yn rhai o'r modiwlau, a gallai fod angen i fyfyrwyr brynu rhai testunau allweddol hanfodol (e.e. Gwyn Thomas (cyf.) Dafydd ap Gwilym: His Poems (Caerdydd, 2001) os byddant yn astudio'r modiwl ar gerddi Dafydd ap Gwilym). Mae gwasanaeth benthyca trwy'r post ar gael i fyfyrwyr o'r DG, ond gallai fod yn amhosibl anfon llyfrau at fyfyrwyr tramor. Gallai penodau ac erthyglau pwysig gael eu llungopïo a'u postio at bob myfyriwr (yn unol ag amodau rheoliadau hawlfraint) a dylech wneud ymholiadau yn y llyfrgell ynghylch cynlluniau sy'n caniatáu i chi fenthyca llyfrau o lyfrgelloedd sy'n agos at eich cartref. Rhoir manylion am faes llafur/cynnwys y cwrs, deilliannau dysgu, asesu, sgiliau trosglwyddadwy a gwerthuso yn disgrifiadau manwl o'r modiwlau a welir isod. Modiwlau:
|
|
|||||
| Diweddarwyd: Mai 14 2007 | |||||