
MA Astudiaethau Celtaidd
Disgrifiad o'r Modiwl - Sgiliau Astudio ac Ymchwilio
Adran: Adran y Gymraeg
Cod Modiwl: MAAS0620
Lefel: ôl-radd
Nifer y Credydau: 20
Dulliau Asesu: adolygu llyfr (1250 gair) 30% erthygl ar gyfer gwyddoniadur (1250 gair) 30% fformatio papur i'w gyhoeddi (amherth.) 10% aseiniad rhyngrwyd (1250 gair) 10% braslun traethawd ymchwil (1250 gair) 20%
Dull(iau) Dysgu: darperir deunyddiau cwrs a thiwtora o hirbell yn ôl y gofyn
Rhaganghenraid / Rhagangenrheidiau: dim
Cydanghenraid / Cydangenrheidiau: dim
Elfennau Anghymarus: dim
Cyfrwng Dysgu: Yn Gymraeg neu'n Saesneg
Oriau Cyswllt : amherth.
Tymor y dysgu: Cofrestru hyblyg
Darlithwyr: Dr Karen Jankulak ac Owen Thomas
Y Maes Llafur: Â'r cwrs i'r afael â sut i astudio, ymchwilio, a chyflwyno ar lefel ôl-radd.
Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd disgwyl i'r myfyriwr:
- deall y gwahaniaeth rhwng ffynonellau cynradd ac eilaidd;
- fabwysiadu agwedd hunanymwybodol feirniadol tuag at ddulliau ymchwil ac ysgrifennu academaidd;
- fod yn ymwybodol o safonau proffesiynol cyflwyno gwaith yn y dyniaethau, a dilyn y confensiynau hynny;
- fod yn ymwybodol o'r angen am ymwybyddiaeth o hanes, a chyrchu tuag at y nod o'u datblygu yn eu meysydd ei hun;
- fod wedi ymarfer grynhoi eu hymchwil eu hunain drwy lunio adroddiadau clir a chryno;
- fod yn gysurus â chyfrifiaduron, a dangos rhai sgiliau cyrchu gwybodaeth trwy'r cyfrwng hwnnw;
- fod yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision gwahanol fathau o ffynonellau eilaidd, gan gynnwys yr hyn sydd ar y we.
Sgiliau Trosglwyddadwy a Sgiliau Perthnasol Eraill:
(Yn ychwanegol at y rheini a restrir uchod) dylai'r modiwl hwn alluogi'r myfyrwyr :
- i ddarllen ac i ysgrifennu'n effeithiol a beirniadol;
- i ddeall gwahanol lefelau o ddisgwrs ysgrifenedig, a gwerthuso defnyddioldeb pob un ohonynt;
- i fod yn fwy hunanymwybodol parthed pob lefel o gyfathrebu, er mwyn gwneud y naill a'r llall yn hyderus ac yn awdurdodol.
Gwerthuso:
Dosberthir holiaduron gwerthuso modiwlau i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau pob modiwl. Trafodir y cwricwlwm hefyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol Staff – Myfyrwyr bob tymor, a gwahoddir myfyrwyr e-ddysgu i gyflwyno sylwadau drwy e-bost i'r Cyfarwyddwr e-addysg ymlaen llaw. Gwneir adroddiadau blynyddol ar y cwricwlwm gan yr Arholwr Allanol. Adolygir cynlluniau gradd y Brifysgol o bryd i'w gilydd gan yr Asiantaeth er Gwarantu Ansawdd Addysg Uwch.
|